Cenedlaethol Cymru

Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg

Digwyddiad Bord Gron i Randdeiliaid ar gyfer yr Ymchwiliad i Statws Cymhwyster Bagloriaeth Cymru: 26 Medi 2018

Ar 26 Medi, fel rhan o'i ymchwiliad i Statws Cymhwyster Bagloriaeth Cymru, cynhaliodd Aelodau'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ddigwyddiad bord gron i glywed barn rhanddeiliaid am Gymhwyster Bagloriaeth Cymru a'i fanteision a’i anfanteision. Roedd y trafodaethau’n seiliedig ar y pum thema allweddol ganlynol:

·         Thema 1: I ba raddau y mae dysgwyr, rhieni, gweithwyr addysg mewn ysgolion a cholegau, cyflogwyr a sefydliadau addysg uwch yn deall ac yn gwerthfawrogi’r cymhwyster Bagloriaeth Cymru;

·         Thema 2: I ba raddau y mae dysgwyr, gweithwyr addysg mewn ysgolion a cholegau, cyflogwyr a sefydliadau addysg uwch yn ystyried bod Bagloriaeth Cymru yn gymhwyster trylwyr sy'n cyfateb i gymwysterau eraill;

·         Thema 3: Statws y cymhwyster Bagloriaeth Cymru mewn ysgolion a cholegau, gan gynnwys targed Llywodraeth Cymru o ran sicrhau bod y cymhwyster yn cael ei fabwysiadu'n gyffredinol ac effaith bosibl y dull gweithredu hwn;

·         Thema 4: Yr effaith ehangach y mae astudio Bagloriaeth Cymru yn ei chael ar bynciau cwricwlwm eraill ac ar ddarpariaeth addysg;

·         Thema 5: Manteision ac anfanteision y cymhwyster Bagloriaeth Cymru i ddysgwyr, ysgolion a cholegau, cyflogwyr a sefydliadau addysg uwch.

Mae'r nodyn hwn yn crynhoi'r safbwyntiau a fynegwyd gan randdeiliaid yn ystod y digwyddiad ac nid ydynt yn cael eu priodoli i unigolion. Safbwyntiau rhanddeiliaid unigol a fynegir ac nid, o reidrwydd, safbwyntiau eu sefydliadau, Cynulliad Cenedlaethol Cymru nac Aelodau'r Cynulliad.

Gwerth a dealltwriaeth

Defnyddir y termau "Bagloriaeth Cymru" a "Thystysgrif Her Sgiliau" yn aml yn ymgyfnewidiol, ond nid yn gywir bob amser. Gwelwyd hyn fel enghraifft o ddiffyg dealltwriaeth a dryswch sylweddol ynghylch y cymhwyster a sut y mae'n gweithio.

Mae'r graddau y gwerthfawrogir Bagloriaeth Cymru yn amrywio ymhlith cynulleidfaoedd perthnasol (staff, disgyblion, cyflogwyr, rhieni, Sefydliadau Addysg Uwch ac ati). Lle mae'n cael ei ystyried yn "atodiad" yn hytrach na rhan annatod o addysg, nid yw’n cael ei gwerthfawrogi cymaint - ond gwelwyd bod newid diwylliant yn hyn o beth yn her mewn sawl achos. Po fwyaf y caiff ei deall, mwyaf y caiff ei werthfawrogi - ac roedd canfyddiad bod cynnydd yn y croeso a roddir iddi a chynnydd o ran ei gwerth.

Gwelwyd cysyniad Bagloriaeth Cymru fel un eang iawn. Mae disgyblion yng Nghyfnod Allweddol 4 yn eithaf ifanc i fod yn ei hastudio, sy'n ei gwneud yn anodd esbonio'n union beth ydyw. Mae hyn hefyd yn ei gwneud yn eithaf anodd i’w haddysgu. Nid oes y fath beth â gwerslyfr Bagloriaeth Cymru nac adnodd addysgu unigol, sy'n ei gwneud anos byth i’w deall.

Mae llawer o ysgolion yn addysgu ac yn gwerthfawrogi Bagloriaeth Cymru, ond nid oes cysonder yn modd y caiff ei haddysgu mewn ysgolion. Mae'r Dystysgrif Her Sgiliau yn gymhwyster mor wahanol fel nad yw athrawon efallai yn hyderus yn ei addysgu. Mynegodd rhai'r farn bod angen cael adran Bagloriaeth Cymru ym mhob ysgol.

Ystyriwyd bod agwedd arweinwyr ysgolion yn hanfodol i lwyddiant Bagloriaeth Cymru. Mewn llawer o achosion, lle mae’r uwch-reolwyr yn fwy cefnogol, maent yn caniatáu hyfforddiant digonol i staff, sy’n codi hyder a gallu’r staff i addysgu'n effeithiol.

Mae rhai problemau o ran canfyddiad sy'n ymwneud yn bennaf â hanes o farn negyddol am Gymhwyster Bagloriaeth Cymru blaenorol. Awgrymwyd y dylai ysgolion a cholegau rannu arfer da - ac er bod rhwydweithiau da ar waith mewn rhai mannau, mae'n waith sy’n mynd rhagddo.

 

Disgyblion

Mae’r Dystysgrif Her Sgiliau yn cael ei gwerthfawrogi’n fwy gan fyfyrwyr sy'n bwriadu mynd ymlaen i astudiaeth academaidd bellach na'r rhai sy'n bwriadu dilyn llwybrau galwedigaethol. Mae hyn oherwydd eu bod yn gwerthfawrogi'r pwyntiau UCAS y mae'n eu cynrychioli. O ganlyniad, mae colegau'n ei chael hi'n anodd cysylltu dysgwyr galwedigaethol â Chymhwyster Bagloriaeth Cymru.

Cafwyd cytundeb eang bod disgyblion yn tueddu i werthfawrogi Bagloriaeth Cymru yn fwy wrth edrych yn ôl arno – er eu bod yn betrus/amharod ar y dechrau, maent yn gwerthfawrogi'r sgiliau a ddatblygwyd erbyn diwedd y broses.

Pan gaiff ei haddysgu'n dda, mae myfyrwyr yn frwdfrydig ac mae dysgwyr iau yn cael eu cyffroi gan y posibilrwydd o astudio Bagloriaeth Cymru. Awgrymwyd bod mwy o ddisgyblion yn gofyn am y cyfle i astudio Bagloriaeth Cymru.

Mae'r gwerth a roddir i’r Cymhwyster gan ddisgyblion yn dibynnu'n drwm ar bwy sy'n ei addysgu - os caiff ei ddarparu'n effeithiol, mae'r canfyddiad o'i werth yn cynyddu. Mae hyn yn cysylltu â'r farn gyffredinol a fynegwyd am werth Bagloriaeth Cymru mewn ysgolion.

Pan gaiff ei gwerthfawrogi, mae'n dueddol o fod ar y sail ei bod yn galluogi unigolion i ddatblygu sgiliau nad ydynt o reidrwydd yn cael eu datblygu mewn cyrsiau TGAU/Safon Uwch eraill – e.e. astudio’n annibynnol, sgiliau ymchwil, sgiliau "meddalach" (e.e. ymdrin â phobl ). Lle nad yw’n cael ei gwerthfawrogi, mae'n dueddol o fod yn seiliedig ar ganfyddiadau:

§  y gall ei chynnwys fod yn ailadroddus ei natur o CA4 i CA5 (e.e. elfennau 'archwilio sgiliau' a 'myfyrio');

§  ei bod yn cyfyngu ar opsiynau o ran pynciau eraill/amser ar gyfer astudiaethau eraill;

§  nad yw Sefydliadau Addysg Uwch na chyflogwyr yn ei gwerthfawrogi yn yr un modd â TGAU/Safon Uwch.

Staff

Ymddengys fod safbwyntiau’r staff yn cael eu dylanwadu'n sylweddol gan y statws (a’r adnoddau cysylltiedig) a roddir i Gymhwyster Bagloriaeth Cymru gan Uwch-dîm Arwain ysgol/coleg – po fwyaf y gefnogaeth (o ran statws ac adnoddau) y mae'n ei chael gan yr Uwch-dîm Arwain, mwyaf y mae'n dueddol o gael ei werthfawrogi.

Teimlai’r rhai a oedd yn cyflwyno Cymhwyster Bagloriaeth Cymru eu bod yn cael eu llethu gan y llwyth gwaith. Mae llawer o athrawon yn ei weld yn llawer o waith ychwanegol, sy'n cymryd bod ganddynt eisoes wybodaeth nad ydynt o reidrwydd yn meddu arni. Mae'n golygu llawer o waith asesu, ac mae llawer o logisteg o ran trefnu gweithgareddau ac ymweliadau. Mae hyn yn effeithio ar bynciau eraill.

Mae'r graddau y mae athrawon yn ei werthfawrogi yn dibynnu ar sut y caiff ei amserlennu. Mynegwyd barn nad yw bob amser yn cael digon o flaenoriaeth na digon o amser. Mae llawer o anghysondeb hefyd o ran yr oriau darpariaeth a neilltuir i gyflwyno Bagloriaeth Cymru – mae’n dibynnu llawer ar lefel y gefnogaeth gan dîm arweinyddiaeth yr ysgol.

Roedd barn gref bod cael adran bwrpasol ar gyfer y Dystysgrif Her Sgiliau, gyda staff penodol, yn allweddol i'w llwyddiant.

Awgrymwyd hefyd fod brwdfrydedd cymysg ymhlith athrawon i Fagloriaeth Cymru. Yn aml, athrawon iau neu staff llai brwdfrydig sy’n cael eu neilltuo i weithio arno gan nad yw’n cael blaenoriaeth ddigonol gan ysgolion.

 

Sefydliadau Addysg Uwch

Mae'r gwerth a roddir i Fagloriaeth Cymru yn amrywio o fewn Sefydliadau Addysg Uwch yn ogystal â rhyngddynt, gyda negeseuon cymysg iawn yn cael eu rhoi i ddisgyblion am y graddau y caiff ei derbyn at ddibenion mynediad. Cred rhai mai 'mater o lwc' yw a yw Prifysgolion yn derbyn Bagloriaeth Cymru ai peidio, yn enwedig gan fod meini prawf derbyniadau yn dibynnu ar ysgolion unigol yn y prifysgolion.

Fodd bynnag, derbyniwyd bod Prifysgolion yn dod yn fwy ymwybodol ac yn fwy tebygol o dderbyn Bagloriaeth Cymru yn Lloegr yn ogystal ag yng Nghymru.

Un fantais i ddysgwyr yw eu bod yn gallu tynnu ar yr hyn y maent wedi'i ddysgu ym Magloriaeth Cymru ar gyfer eu datganiadau personol mewn Sefydliadau Addysg Uwch.

 

Rhieni a chyflogwyr

Roedd cytundeb ym mhob maes bod diffyg dealltwriaeth sylweddol am Gymhwyster Bagloriaeth Cymru y tu hwnt i ddisgyblion a staff. Mae rhai rhieni yn derbyn Bagloriaeth Cymru, ond efallai nad ydynt yn ei deall. Awgrymwyd hefyd fod rhai rhieni yn dueddol o beidio â bod eisiau i'w plentyn astudio Bagloriaeth Cymru ar draul pwnc mwy traddodiadol.

Nid yw rhieni ychwaith yn gwerthfawrogi Bagloriaeth Cymru oherwydd eu bod yn ei gweld yn rhwystr i blant allu mynd i'r brifysgol. Mae rhai rhieni yn cysylltu ag ysgolion i eithrio’u plant o Fagloriaeth Cymru (neu o'r ysgol os yw Bagloriaeth Cymru yn orfodol) oherwydd canfyddiad y bydd Bagloriaeth Cymru yn niweidiol i'w cynnydd mewn pynciau eraill/o ran cael eu derbyn i'r prifysgolion gorau. Fodd bynnag, awgrymwyd mai lleiafrif y rhieni oedd y rhain, ond mae'r rhai sy'n gwrthwynebu Cymhwyster Bagloriaeth Cymru yn fwy llafar a’r farn negyddol sy'n cael y sylw. 

Ni wnaed digon i werthu Cymhwyster Bagloriaeth Cymru pan gafodd ei ail-lansio. Mae angen i Lywodraeth Cymru a Chymwysterau Cymru ymgymryd ag ymgyrch PR sylweddol i esbonio ei fanteision (i bob cynulleidfa) i fynd i'r afael â'r diffyg bri sydd ynghlwm wrth y Cymhwyster. Gallai hyn gynnwys ymgysylltu mwy â disgyblion a rhieni ym mlwyddyn 9.

Mae'n ymddangos nad yw cyflogwyr, ar y cyfan, yn gwybod llawer amdano (oni bai bod eu plant eu hunain wedi astudio Bagloriaeth Cymru). Roedd hyn yn arbennig o berthnasol gyda chyflogwyr llai. Awgrymwyd y dylid cael menter i ymgysylltu â chyflogwyr, er y dylid rhoi gair o rybudd gan fod profiad yn Lloegr wedi dangos bod rhai cyflogwyr wedi dod yn rhy gysylltiedig â’r cymwysterau lefel T.

Roedd barn bod cyflogwyr am gael y sgiliau sydd ym Magloriaeth Cymru ond nad ydynt yn sylweddoli bod y sgiliau hynny ynghlwm â’i gynnwys.

O ran cyflogwyr, efallai y gwireddir y manteision dros gyfnod o amser oherwydd mae’n rhaeadru wrth iddynt gyflogi dysgwyr sydd â Chymhwyster Bagloriaeth Cymru. Mae angen ei farchnata'n well i gyflogwyr llai fel eu bod yn deall bod y cymhwyster yn cynnig ystod o sgiliau sy'n hanfodol i'r gweithle.

Pe bai enw'r cymhwyster yn cael ei newid, efallai y byddai hyn yn cynyddu ymwybyddiaeth neu yn achosi iddo gael ei dderbyn gan gyflogwyr - roedd yr enghreifftiau a roddwyd yn cynnwys defnyddio 'her sgiliau' yn unig neu ei newid i 'sgiliau cyflogadwyedd' neu 'sgiliau byd go iawn'.

 

Cymhlethdod

Roedd ystod eang o randdeiliaid yn gytuno bod Cymhwyster Bagloriaeth Cymru ar ei wedd bresennol yn rhy gymhleth. Rhai rhesymau dros hyn oedd:

§  gall y gymhariaeth â chymwysterau eraill fod yn heriol;

§  mae'r strwythur graddio’n rhy gymhleth, fel y mae’r cynlluniau marcio;

§  mae'r gwaith gweinyddol sy'n gysylltiedig â Bagloriaeth Cymru yn rhy gymhleth ac yn feichus (i ddisgyblion a staff)

Pe bai Cymhwyster Bagloriaeth Cymru yn cael ei symleiddio byddai'n cael ei ddeall yn well. O’i ddeall yn well, byddai'n cael ei werthfawrogi’n fwy.

 

Cymhwyster trylwyr sy’n cyfateb i gymwysterau eraill

Mae'r graddau yr ystyrir Bagloriaeth Cymru yn gymhwyster cyfatebol yn dibynnu'n helaeth ar yr ymagwedd a gymerir mewn ysgolion. Er mwyn ei gyflwyno'n effeithiol mae angen pobl sy'n credu yn y cymhwyster ac sydd wedi ymrwymo yn y tymor hir. Fodd bynnag, i rai athrawon sy'n cyflwyno Bagloriaeth Cymru, dyma eu trydydd pwnc.

 

Yn aml nid yw disgyblion yn ei weld fel cymhwyster cyfatebol (er bod hynny'n dibynnu llawer ar y statws a roddir iddo gan eu hysgol/coleg - po uchaf ei statws,  mwyaf y caiff ei weld yn gyfwerth). Mae Cymhwyster Bagloriaeth Cymru CA5 yn dueddol o gael ei werthfawrogi’n fwy gan ddisgyblion na Chymhwyster Bagloriaeth Cymru CA4.

Mae Sefydliadau Addysg Uwch yn ei gydnabod fwyfwy fel cymhwyster cyfatebol, er bod anghysondebau’n parhau ar draws sefydliadau ac oddi mewn iddynt. Ymddengys fod problem arbennig ym mhrifysgolion Cymru (roedd cyfranogwyr ym meddwl y gallai fod o ganlyniad i enw drwg y cymhwyster gwreiddiol).

Mae Cymhwyster Bagloriaeth Cymru yn llwyth gwaith mawr a heriol i ddisgyblion, a gall hyn arwain at agwedd negyddol  o’u rhan nhw. Awgrymwyd gan rai bod y Dystysgrif Her Sgiliau "yn fwy na’r hyn sydd angen ichi ei wneud ar gyfer TGAU / Safon Uwch" - er nad yw’n fwy anodd efallai, mae'n fwy heriol o ran swmp ac ymrwymiad amser.

Roedd cytundeb ag argymhelliad Cymwysterau Cymru y dylai fod llai o 'heriau' o fewn Cymhwyster Bagloriaeth Cymru. Roedd rhai galwadau hefyd am fwy o asesiad allanol i ddisodli'r asesiad mewnol dan reolaeth er budd trylwyredd ac i leihau'r baich ar staff yr ysgol.

Ystyriwyd bod y gwaith gweinyddol yn fwy beichus na'r addysgu ar gyfer y Dystysgrif Her Sgiliau nag y mae ar gyfer Safon Uwch/TGAU

 

Statws ac effaith mabwysiadu cyffredinol

Mae diffyg eglurder sylweddol a niweidiol yn ymwneud â natur "orfodol" y Fagloriaeth a'r mesurau perfformiad sy'n gysylltiedig â hi. Roedd gan bobl farn wahanol am ystyr 'mabwysiadu cyffredinol'. Mae rhai pobl yn credu ei fod yn golygu y dylai pob disgybl ei astudio, tra bod eraill yn meddwl ei fod yn golygu y dylai pob ysgol gynnig y dewis.

Roedd rhai rhanddeiliaid o'r farn y dylai'r Dystysgrif Her Sgiliau fod yn orfodol ac na ddylid gwrthod y cyfle i ddysgwyr astudio Bagloriaeth Cymru. Fodd bynnag, roedd barn bod problemau y mae angen eu datrys cyn ei mabwysiadu’n gyffredinol.

Dywedodd rhai rhanddeiliaid na ddylid gwneud Cymhwyster Bagloriaeth Cymru yn orfodol nes bod y cynnwys, y dull gweithredu a'r adnoddau’n hollol gywir (ac nid dyna fel y mae ar hyn o bryd). Hyd yn oed mewn amgylchiadau o'r fath, roedd y cyfranogwyr yn poeni y byddai rhai disgyblion yn methu o’r dechrau oherwydd y gofyniad i gael TGAU Saesneg/Cymraeg a Mathemateg i allu pasio (sydd, i lawer, yn anodd).

Mae anghysonder yn modd y mabwysiedir Cymhwyster Bagloriaeth Cymru, er enghraifft mae rhai ysgolion a cholegau yn ei gwneud yn ofynnol i bob myfyriwr ôl-16 ei astudio, ond mae ysgolion a cholegau eraill yn caniatáu i fyfyrwyr optio allan. Roedd rhywfaint o ddryswch ynghylch a yw mesurau perfformiad yn annog ysgolion i’w fabwysiadu’n gyffredinol ond roedd rhywfaint o gydnabyddiaeth, pe byddent yn gwneud hynny, y byddai'n rhaid i ysgolion roi mwy o flaenoriaeth i Gymhwyster Bagloriaeth Cymru nag y maent yn ei wneud ar hyn o bryd.

Credai rhai cynrychiolwyr ysgol na fydd Cymhwyster Bagloriaeth Cymru yn hygyrch i bob disgybl er gwaethaf ymdrechion i'w wneud yn gyffredinol, ac felly mae mabwysiadu cyffredinol yn afrealistig. Ni fydd gan rai disgyblion y gallu ac mae’n well iddynt gael ymyriadau llythrennedd a rhifedd sylfaenol. Credent, felly, y dylai Cymhwyster Bagloriaeth Cymru fod yn gyffredinol ond y dylai rhai disgyblion gael eu heithrio rhag hyn os oedd athrawon yn teimlo bod llwybrau dysgu mwy priodol ar eu cyfer.

Fodd bynnag, roedd barn hefyd na ddylai disgyblion allu optio allan am nad oeddent am astudio Bagloriaeth Cymru neu am eu bod am astudio pynciau eraill yn ei lle. Roedd hwn yn wahaniaeth pwysig.  

Roedd cyllid yn broblem bosibl pe bai’n cael ei gwneud yn orfodol - y farn oedd pe bai'n cael ei hariannu yn yr un modd â phynciau eraill y byddai'n benderfyniad addysgol ynghylch a ddylai dysgwr ei hastudio yn hytrach na phroblem gallu/adnoddau. Roedd cynrychiolwyr y colegau’n pryderu am gyllid pe bai'n dod yn orfodol a’r effaith ar ddata canlyniadau.

Pynciau cwricwlwm eraill a darpariaeth addysg

Mynegwyd pryderon y gallai Cymhwyster Bagloriaeth Cymru fod wedi arwain at ostyngiadau yn nifer y disgyblion sy'n astudio rhai pynciau yn y dyniaethau, ac ieithoedd tramor modern. Er bod rhai yn priodoli hyn yn uniongyrchol i Gymhwyster Bagloriaeth Cymru, roedd eraill yn ei briodoli i bwyslais cryfach ar/mwy o flaenoriaeth i bynciau STEM.

Mae pryder ynghylch cysondeb o ran cymedroli Cymhwyster Bagloriaeth Cymru, yn enwedig mewn perthynas ag unrhyw gymhariaeth â phynciau cwricwlwm eraill. Mae angen i feysydd llafur a meini prawf asesu fod yn gliriach ac mae angen cyswllt cynhenid â phynciau Safon Uwch/TGAU.

Ystyriwyd bod trefniadau cyllido yn anghyson a bod angen eu hegluro. Mae cyllid ar gyfer Cymhwyster Bagloriaeth Cymru yn amrywio o’r Awdurdod Lleol i’r llall mewn perthynas ag ysgolion, ac yn ei dro, rhwng ysgolion a cholegau Addysg Bellach.

Roedd cytundeb cyffredinol y dylai strwythur Bagloriaeth Cymru gwmpasu diwygiadau Donaldson a dylai hyn ei gwneud yn haws i ddysgwyr Cymhwyster Bagloriaeth Cymru gofleidio'r cwricwlwm newydd.

Manteision ac anfanteision

 

Manteision

Pan gaiff ei gyflwyno'n dda, mae Cymhwyster Bagloriaeth Cymru yn datblygu "dysgwyr annibynnol", sgiliau ymchwil, unigolion "aml-dalentog", disgyblion sydd â "llai o angen eu bwydo â llwy".

Mae elfen brosiect y Dystysgrif Her Sgiliau yn rhan arbennig o ddefnyddiol o Gymhwyster Bagloriaeth Cymru. O ran Safon Uwch, mae'n paratoi pobl ifanc ar gyfer addysg uwch, gan roi iddynt sgiliau ymchwil a sgiliau astudio unigol.

Mae Cymhwyster Bagloriaeth Cymru yn helpu i gyfrannu i’r gymuned ehangach. Mae hefyd yn cael effaith gadarnhaol ar ethos yr ysgol gan ei fod yn cynnwys y gymuned.

Mae llawer o sgiliau meddal yn cael eu datblygu gyda Chymhwyster Bagloriaeth Cymru (fel defnyddio'r ffôn at ddibenion busnes) yn ogystal â sgiliau bywyd eraill fel ymdrin â chyllid.

Mae'n annog ymddygiadau fel tosturi a hyder.

Gall gael effaith gadarnhaol iawn ar les myfyrwyr o ran cael cymhwyster di-arholiad sy'n defnyddio set wahanol o sgiliau.

 

Anfanteision

Mae'r diffyg eglurder ynghylch ei werth yn afresymol ac mae’n effeithio ar y canfyddiad cyffredinol o'r cymhwyster (sydd, yn ei dro, yn effeithio ar ba mor werthfawr y mae disgyblion ac eraill yn ei ystyried).

I basio (a bodloni mesurau perfformiad) gall disgyblion "gael eu bwydo â llwy" i fynd drwyddo (er bod hyn yn wir am bob pwnc, nid Cymhwyster Bagloriaeth Cymru yn unig).

Mae gwaith cyfranogiad cymunedol 30 awr yn ymrwymiad mawr (efallai yn rhy fawr). Mae llawer yn teimlo nad yw'r amser sy'n ofynnol yn cael y gydnabyddiaeth angenrheidiol o ran marciau - dim ond yr adolygiad o'r cyfranogiad sy'n cyfrif, yn hytrach na'r cyfranogiad ei hun (y mae staff a disgyblion yn teimlo ei fod yn ei danbrisio).

 

Materion eraill

Mae angen edrych yn fwy gofalus ar dueddiadau yn ystod y blynyddoedd diwethaf sy'n dueddol o awgrymu bod cael y graddau uchaf yn y Dystysgrif Her Sgiliau yn anos na chael y graddau uchaf mewn TGAU/Safon Uwch.

Mae rhai myfyrwyr yn gweithio gydag ysgolion cynradd sy'n bwydo’r ysgol uwchradd o ran hyfforddi a mentora. Fodd bynnag, mae problemau’n ymwneud â gwiriadau DBS i'r myfyrwyr - mae angen i fyfyrwyr sy'n mynd i ysgolion cynradd gael gwiriadau DBS a thalu amdanynt gan fod hynny’n rhan ofynnol o astudio ar gyfer cymhwyster. 

Mae cyllidebau ysgolion yn rhwystr i lwyddiant - i ryddhau staff i gefnogi gwaith gyda myfyrwyr yn y gymuned ac ar gyfer Datblygiad Proffesiynol Parhaus (a chyflenwi).  Gellid ei gymell trwy gyllid.